Ar yr 11eg o Orffennaf 2006, dan gadeiryddiaeth y Gwir Anrhydeddus Pasqual Maragall, Arlywydd Llywodraeth Catalwnia bryd hynny, sefydlodd Linguamón – Tŷ’r Ieithoedd ei Bwyllgor Gwyddonol Rhyngwladol. Mae’r pwyllgor hwn yn grŵp o arbenigwyr rhyngwladol eu bri, a’i bwrpas yw cynnig cyngor ynghylch cynnwys dogfennaeth gan gynorthwyo mewn meysydd gwyddonol a hybu adnabyddiaeth o’r fenter.
Cadeirydd y Pwyllgor yw’r ieithydd adnabyddus Cymreig David Crystal, a draddododd araith ar bwysigrwydd ffyniant ieithoedd, ac mae’r aelodau’n cynnwys arbenigwyr mewn gwahanol feysydd megis ieitheg, cymdeithaseg ac economeg.
Aelodau’r Pwyllgor yw:
Cadeirydd: Yr Athro David Crystal, Cymru. Awdurdod cydnabyddedig mewn ieitheg. Awdur, golygydd, athro, a dderbyniodd CBE ym 1995. Daeth yn adnabyddus yn bennaf yn sgil ei waith ymchwil i’r iaith Saesneg, a hefyd ym meysydd tonyddiaeth, arddulleg a chymhwysiad ieitheg at gyd-destunau crefyddol, addysgol a chlinigol, a hynny’n benodol yng nghyswllt datblygiad technegau adnabod ieithyddol at ddibenion diagnostig a therapewtig. Ar hyn o bryd mae’n Athro Ieitheg Anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac ef yw Llywydd National Literacy Association (Cymdeithas Hybu Llythrennedd) y DU, ymhlith swyddi eraill a ddelir ganddo.
Peter Austin, Awstralia. Ieithydd a Chyfarwyddydd y Rhaglen Academaidd o blaid Ieithoedd Dan Fygythiad. Athro yn School of Oriental and African Studies Prifysgol Llundain. Arbenigydd yn ieithoedd Awstralia.
Colin Baker, Cymru. Athro cadeiriol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Arbenigydd mewn addysg a dwyieithedd.
Ayo Bamgbose, Nigeria. Ieithydd, Affricanydd ac Athro Emeritws ym Mhrifysgol Ibadan. Arbenigydd mewn ieithoedd Affricanaidd a pholisi ieithyddol.
Jean Claude Corbeil, Quebec. Â Doethuriaeth mewn Ieitheg o Brifsygol Strasbourg, yn gyn-Gyfarwyddydd Swyddfa’r Iaith Ffrangeg yn nhalaith Quebec, a Chynghorwr i Lywodraeth Quebec ar bolisi ieithyddol.
M. Carmen Garmendia, Euskadi / Gwlad y Basg. Cyn-Weinidog Diwylliant a chyn-Ddirprwy Weinidog Polisi Ieithyddol Llywodraeth Euskadi.
François Grin, Y Swistir. Athro cadeiriol Economeg ym Mhrifysgol Genefa, ac arbenigydd mewn ieithoedd, hyfforddiant ac economeg.
Monica Heller, Canada. Ieithydd cymdeithasegol ac athrawes gadeiriol ym mhrifysgol Toronto. Arbenigydd ym maes mewnfudo.
M. Carme Junyent, Catalwnia. Athrawes mewn Ieitheg Gyffredinol ym Mhrifysgol Barcelona, a chadeirydd cyfredol Grŵp Astudiaethau’r Ieithoedd Dan Fygythiad (GELA).
Luis Enrique López, Bolifia. Athro ym Mhrifysgol Universidad Mayor de San Simón, Cochabamba, a phrif gynghorwr y Rhaglen Hyfforddiant mewn Addysg Ryngddiwylliannol Ddwyieithog ar gyfer Gwledydd yr Andes.
Guillem López Casasnovas, Menorca. Economegydd a chynghorwr i Fanc Sbaen. Athro cadeiriol Economeg ym Mhrifysgol Pompeu Fabra.
Isidor Marí, Ynys Eivissa/Ibiza, Sbaen. Ieithydd cymdeithasegol. Cyfarwyddydd Astudiaethau Dynoliaethol ym Mhrifsygol Agored Catalwnia (UOC). Arbenigydd mewn polisi a chynllunio ieithyddol.
Marianne Mithun, Unol Daleithiau América. Athrawes ym Mhrifysgol Califfornia, Santa Barbara. Ymchwilydd i ieithoedd lleiafrifol Gogledd America.
Juan Carlos Moreno, Madrid, Sbaen. Athro cadeiriol mewn Ieitheg Gyffredinol ym Mhrifysgol Annibynnol Madrid, awdur llu o astudiaethau ar ieithoedd y byd ac ar amrywiaeth ieithyddol.
Peter Mühlhäusler, Awstralia. Athro Ieitheg ym Mhrifysgol Adelaide ac aelod ychwanegol o Goleg Linacre, Rhydychen. Mae’n arbenigo mewn cynllunio ieithyddol, eco-ieitheg, creolieithoedd a chyfathrebiad rhyngddiwylliannol.
Òscar Pujol, Catalwnia. Â Doethuriaeth mewn Sansgrit o Banaras Hindu University. Cyfarwyddydd rhaglenni addysgol Casa Àsia (Tŷ Asia) yn ninas Barcelona.
Xavier Sala i Martín, Catalwnia. Economegydd rhyngwladol ei fri sy’n athro Economeg ym Mhrifysgol Columbia ac yn athro Economeg gwadd ym Mhrifysgol Pompeu Fabra.
Joe Sheils, Y Deyrnas Unedig. Aelod o Gyngor Ewrop. Pennaeth Adran Polisi Ieithyddol Cyngor Ewrop. Arbenigydd mewn addysg.
Jesús Tuson, Valencia, Sbaen. Athro Ieitheg Gyffredinol ym Mhrifysgol Barcelona. Awdur nifer o lyfrau ar ieitheg a chyflwyniadau poblogaidd i amrywiaeth ieithyddol.
Llorenç Valverde, Ynys Mallorca, Sbaen. Athro cadeiriol mewn cyfrifiadureg a deallusrwydd artiffisiol ac Is-Bennaeth Technolegau ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Agored Catalwnia(UOC). Arbenigydd mewn technolegau gwybodaeth a chyfathrebiad.
Colin Williams, Cymru. Ieithydd cymdeithasegol. Athro ym Mhrifysgol Caerdydd. Arbenigydd mewn gwyddor cymdeithas, daearyddiaeth ddynol a chynllunio ieithyddol.