|     Cysylltwch â Ni      |     

LINGUAMÓN - Casa de les Llengües

Pwy ydym?

Hafan > Tŷ'r Ieithoedd  > Pwy ydym?

Pwy ydym?

Linguamón - Tŷ’r Ieithoedd

Mae Linguamón – Tŷ'r Ieithoedd yn sefydliad llywodraethol a sefydlwyd yn 2005 dan nawdd Generalitat (Llywodraeth) Catalwnia a Bwrdeistref Barcelona. Ein cenhadaeth yw dod â byd ieithoedd yn nes at bobl gyffredin; helpu'r gymdeithas i weld cyfoeth ieithoedd dan oleuni cadarnhaol; creu ymwybyddiaeth i hybu cynaladwyedd amrywiaeth ieithyddol ein byd, a rhoi cyhoeddusrwydd i'r posibiliadau mawr y mae ieithoedd a'r cymunedau sy'n eu siarad yn eu cynnig.

Yn ogystal, trwy gyfrwng ein gwasanaethau arbenigol, rydym yn cynnal mentrau yng nghyswllt ieithoedd i gyfrannu at hyrwyddo datblygiad cymdeithasol ac economaidd y gymdeithas, fel y bydd y modelau ar gyfer hybu a chynnal amlieithedd a argymhellir yn cyfrannu'n gadarnhaol at gydlyniad cymdeithasol, cystadleugarwch ac economi pob gwlad, yn ogystal â datblygiad cymdeithasol a chyflogaeth i'wdinasyddion.

Mae Linguamón - Tŷ'r Ieithoedd am gyfrannu at droi Catalwnia'n gyfeirbwynt rhyngwladol ym maes hybu a chynnal amlieithedd y gymdeithas a'r technolegau newydd.

Beth rydym yn ei wneud?

Mae Linguamón – Tŷ'r Ieithoedd yn gweithredu mewn tri phrif faes.

1. Amliethedd a'r gymdeithas

Hybu adnabyddiaeth o ieithoedd a pharch tuag at amrywiaeth ieithyddol ymhlith dinasyddion y byd.

2. Amliethedd a gwasanaethau arbenigol

Creu gwasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau wedi'u hanelu at arbenigwyr, sefydliadau a chwmnïau, ar gyfer hybu a chynnal amlieithedd.

3. Amliethedd a chsylltiadau rhyngwladol

Creu a hyrwyddo rhwydweithiau gweithio a chydweithredu â sefydliadau eraill led y byd sydd â'r nod o hybu amrywiaeth ieithyddol, ieithoedd ac amlieithedd.

Adroddiadau Blynyddol

Adroddiad Blynyddol 2009 (yn Saesneg)

Adroddiad Blynyddol 2008 (yn Saesneg)

Adroddiad Blynyddol 2007 (yn Catalaneg)

Adroddiad Blynyddol 2006 (yn Catalaneg)

Ein safle newydd yn ardal 22@ yn Barcelona

Yn 2012, fe fydd hen ffatri Can Ricart, yn ardal 22@, yn Poblenou, yn dechrau cael ei defnyddio fel pancadlys Linguamón – Tŷ'r Ieithoedd.

Bydd Tŷ'r Ieithoedd yn ganolfan ddiwyllianol unigryw, a chanddi'r nod o hyrwyddo ieithoedd a'u datblygiad. Bydd yn ganolfan newydd ar gyfer trefnu gweithgareddau diwylliannol i bawb, ac yn ffynhonnell wybodaeth a gwasanaethau newydd ar gyfer rhychwant eang o weithwyr proffesiynol sydd yn gynyddol awyddus i dderbyn hyfforddiant arbenigol ynghylch ennyn a gweinyddu cymdeithas amryfath, gynyddol amlieithog.

Bydd 7000m2 y ganolfan newydd wedi'u cysegru i ieithoedd, a hynny yng nghalon ardal y gymdeithas wybodaeth. Mi fydd yn bwerdy diwylliannol, a chanddo gysylltiadau â gwahanol gymunedau ieithyddol y ddinas, y cyhoedd, arbenigwyr a sefydliadau sy'n gweithio er lles amlieithedd ac i hybu buddion a gwerthoedd cymdeithas amlieithog.

Yn ogystal bydd lleoliad Tŷ'r Ieithoedd yn ardal dechnolegol 22@ yn hwyluso ei rôl fel pegwn arloesedd mewn perthynas â'r technolegau newydd a ddefnyddir ym maes ieithoedd.

Am fwy o wybodaeth
 


 

Edrych o'r newydd
Generalitat de Catalunya
Casa de les Llengües ©