• Amerindeg
• Na-Dene
• Esgimo-Alewteg
Tarddiad y tri theulu yw’r tair ton ymfudol a ddaeth i mewn i’r cyfandir dros Gulfor Bering 18,000 o flynyddoedd yn ôl, yn ôl amryw ddamcaniaethau.
Rhennir y tri theulu hyn yn nifer sylweddol o grwpiau go wahanol i’w gilydd:
Mae’n debyg mai’r teulu Amerindiaidd yw’r teulu mwyaf amrywiol ar y ddaear, hynny yw: y teulu a is-rennir yn y nifer fwyaf o ieithoedd: mae ynddo tua 600 o ieithoedd yn perthyn i fwy na 100 o grwpiau.
Dau ffactor sy’n gyfrifol am y fath amrywiaeth: ehangder aruthrol y diriogaeth, sy’n cwmpasu De América i gyd, América Ganol a chyfran sylweddol o Ogledd América (ar wahân i’r ardaloedd lle y siaredir ieithoedd y ddau deulu arall); a’r ynysiad daearyddol a nodweddai’r grwpiau poblogaeth ar draws y cyfandir.
Y grŵp amlycaf yng ngogledd y cyfandir yw’r grŵp Algonciaidd, ac ynddo ieithoedd megis Arapaho, Tsierocî a Dakota. Tuag América Ganol ceir y grŵp Wto-Astecaidd, sy’n cynnwys Comantshe a Náhwatl. Yn ardal Mynyddoedd yr Andes y ceir yr iaith frodorol a siaredir fwyaf ledled y cyfandir, sef Cetshwa — a chanddi ryw 10 miliwn o siaradwyr —, yn ogystal ag Aimara a Maputshe. Mae Gwaraní a Twpí yn perthyn i’r grŵp Cyhydeddol-Twcanaidd. Ar hyd glannau afon Amason fe geir hefyd y grwpiau Ge, Pano a Charib, sy’n cynnwys ieithoedd tra lleiafrifol megis Mádija (Ge), Marwbo (Pano) a Panare (Carib).
Mae’r ail deulu, Na-Dene, yn ymestyn ar draws Alaska a gorllewin Canada. Yn ogystal â nifer o ieithoedd ynysedig, mae’n cynnwys y grŵp Athapasgaidd, ac ynddo Navaho ac Apatshe ymhlith eraill.
Yn olaf, mae’r teulu Esgimo-Alewtaidd yn ymestyn ar hyd ymylon gogleddol y cyfandir, o Alaska i’r Ynys Las. Mae’r grŵp Esgimoaidd yn cynnwys ieithoedd megis Inwit ac Iwpik.
Mae amrywiaeth aruthrol América wedi dirywio o ganlyniad i’r broses wladychu yn sgil dyfodiad Colombws ym 1492. Amcangyfrifir er enghraifft i ryw 1,200 o ieithoedd fodoli ym Mrasil cyn dyfodiad yr Ewropeaid. Nid erys heddiw ond 170 ohonynt, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain ar y ffordd i ebargofiant.
Gwaraní yw’r unig iaith Amerinidiaidd sydd â statws swyddogol ledled gwladwriaeth gyfan, sef Paragwâi. Mae ieithoedd eraill naill ai heb statws o gwbl, neu mae ganddynt statws cyd-swyddogol mewn rhan o diriogaeth y wlad, megis Cetshwa neu Aimara ym Mherŵ. Mae gan bob gwladwriaeth yn América un neu fwy o ieithoedd Ewropeaidd yn iaith swyddogol: Sbaeneg, Saesneg, Ffrangeg, Portwgaleg neu Isalmaeneg.
Pan ddaeth yr Ewropeaid, dechreuwyd allforio cynhyrchion na wyddai neb amdanynt yn Ewrop, a defnyddid eu henwau Americanaidd brodorol. Fel hyn y daeth inni enwau megis tato (Cetshwa), tomato a siocled (Náhwatl), yn ogystal ag enwau anifeiliaid megis piranha (Twpí), a thermau eraill megis hurricane (Taíno) neu anorac (Inwit).