|     Cysylltwch â Ni      |     

LINGUAMÓN - Casa de les Llengües

Ieithoedd Asia

Hafan > Amrywiaeth Ieithyddol  > Les llengües del món  > Ieithoedd Asia

Ieithoedd Asia

Les llengües d'Àsia

Siaredir rhyw 2,000 o ieithoedd yn Asia. Maent yn perthyn i wahanol deuluoedd ieithyddol, y mae rhai ohonynt i’w cael ar gyfandir Asia yn unig tra bod eraill yn bodoli mewn rhannau eraill o’r byd. Mae’r rhai nas siaredir ond yn Asia’n cynnwys:

• Y teulu Altäig, sy’n cynnwys ieithoedd megis Twrceg, Mongoleg a Manshw. 
• Y teulu Drafidaidd, sy’n ymestyn ar draws de’r India a Sri Lanka ac yn cynnwys ieithoedd megis Tamil a Malaialam. 
• Y teulu Sino-Tibetaidd, sy’n cynnwys, ymhlith eraill, Tseinëeg, Byrmaneg a Thibeteg
• Y teulu Awstro-Asiaidd, sy’n cynnwys Fietnameg, Laoseg a Khmer. Mae rhai arbenigwyr wedi gweld perthynas rhyngddo a’r teulu Awstronesaidd ac â Daeg (Thai), ac yn rhagdybio bodolaeth grŵp Awstrig mawr.  
• Yn olaf mae’r ieithoedd Tshwctshi-Kamtshatka, sydd ar ddarfod.  

Y teuluoedd a geir hefyd y tu draw i gyfandir Asia yw: 

• Y teulu Affro-Asiaidd: Arabeg, sy’n aelod ohono, yw’r cyswllt amlycaf ag Affrica.  
• Y teulu Indo-Ewropeaidd, sy’n cynnwys Ffarsi (Perseg), Cwrdeg, Hindi, Bengaleg, Wrdw, Pashto, Nepaleg ayyb. Mae’r rhain, ynghyd â’r teulu Wralaidd — Oseteg, Mansi, Shanti —, yn ffurfio cysylltiad ieithyddol ag Ewrop.  
• Mae’r teulu Esgimo-Alewtaidd - Iwpik - yn gyswllt rhwng Asia ac América.  
• Y teulu Awstronesaidd, sy’n cwmpasu ieithoedd megis Indoneseg, Maleieg, Tagalog a Jafaneg ymhlith eraill, ac sy’n ffurfio cyswllt rhwng Asia ac Ynysoedd y De.   

Yn ogystal â’r ieithoedd y gellir eu dosbarthu mewn teuluoedd ieithyddol, mae yna eraill na lwyddwyd hyd yn hyn i sefydlu cydberthnasau amlwg ar eu cyfer, megis Siapaneg, Corëeg, Ainw, Giliak a Bwrŵshasci.

Am y nifer o ieithoedd a’r nifer sy’n eu siarad, fe welir amrywiaeth fawr yn y sefyllfaoedd ar draws Asia. Gwelir yno ieithoedd nad oes ond dyrnaid o bobl yn eu siarad bellach, rhai yn Siberia er enghraifft, ac eraill sydd â’r nifer uchaf o siaradwyr yn y byd megis Tseinëeg neu Hindi. Dylid cofio mai yn Asia y ceir tair o’r pump iaith a siaredir fwyaf o gwmpas y byd, sef Tseinëeg, Hindi a Bengaleg. 

O ran statws, ieithoedd brodorol yw’r ieithoedd swyddogol ym mhob gwladwriaeth bron yn Asia. Mae hyn yn golygu, yn wahanol i’r sefyllfa ar gyfandiroedd eraill, fod llawer o ieithoedd lleol dan fygwth pwysedd gan ieithoedd lleol eraill, nid gan ieithoedd y cyn-wladychiaethwyr. Serch hynny, mae yna wladwriaethau lle y mae gan ieithoedd megis Saesneg neu Ffrangeg statws swyddogol. Mae Saesneg yn gyd-swyddogol felly mewn sawl gwlad megis India, Pacistan a Singapôr, tra bod gan Ffrangeg statws swyddogol er enghraifft yng Nghambodia a Fiet Nam. 

Mae ieithoedd Asia wedi cyfrannu cyfoeth o dermau i ieithoedd y byd, megis teiffŵn, te (Tseinëeg), jyngl, siampŵ (Hindi), mango, sinsir, cyrri (Tamil), bambŵ, lansio (Maleieg), y lliw caci, bonsai (Siapaneg), carafán, lelog (Ffarsi), ciosg, iogwrt (Twrceg), lama (tibeteg), panda (Nepaleg), mamoth (Oseteg) a llawer mwy.

Generalitat de Catalunya
Casa de les Llengües ©