Ar gyfandir Ewrop mae yna ieithoedd a oedd ar fin diflannu ond sydd wedi gweld adfywiad yn ddiweddar (megis Tateg ar orynys Crimea, a siaredir gan bobl a alltudiwyd oddi yno). Ceir ieithoedd sy’n cyrraedd Ewrop gyda’r mewnfudwyr sy’n eu siarad (Tseinëeg er enghraifft). Mae ieithoedd eraill sydd, trwy ewyllys y cymdeithasau sy’n gweld ynddynt elfen o’u hunaniaeth a ffactor o blaid undod cymdeithasol, yn datblygu ar sail ieithoedd a fodolai eisoes (megis Lwcsembwrgeg, a darddodd o dafodiaith leol o’r Almaeneg), ac ieithoedd sy’n brwydro dros atgyfodiad (megis Cernyweg). Fe welir yn ogystal, yn anffodus, ieithoedd sydd yn dirywio (Aragoneg er enghraifft). At ei gilydd mae’n anodd dweud faint yn union o ieithoedd a siaredir yn Ewrop.
Gellir ystyried fodd bynnag fod y nifer o ieithoedd a siaredir ar gyfandir Ewrop, o lannau Môr Iwerydd i Fynyddoedd yr Wral – ond heb gynnwys y Cawcasws –, yn agos i saith-deg, a hynny heb gymryd i ystyriaeth ieithoedd arwyddion pobl fyddar yn y gwahanol gymunedau, na’r holl ieithoedd sydd wedi cyrraedd o bob cwr o’r byd ar wefusau’r Ewropeaid newydd.
Mae’r rhan fwyaf o’r saith-deg fwy neu lai o ieithoedd hyn yn perthyn i’r teulu Indo-Ewropeaidd; mae hyn yn golygu bod ganddynt darddiad cyffredin a’u bod o ganlyniad yn debyg i’w gilydd, er nad yw’r tebygrwydd - rhwng Eidaleg a Swedeg er enghraifft – yn amlwg o gwbl bob amser ond i arbenigwyr. Mae ieithoedd yn Ewrop hefyd sy’n perthyn i’r teuluoedd Wralaidd (megis Ffinneg, Estoneg, Sami a Hwngareg) ac Altäig (megis Twrceg a Thatareg), a hyd yn oed un iaith o’r teulu Affro-Asiaidd, sef Malteg, sy’n gydberthynol i Arabeg, ac un iaith na wyddys i ba deulu y mae’n perthyn: Basgeg.
Mae’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yn Ewrop yn cynnwys yr ieithoedd Baltaidd (Latfieg a Lithwaneg), y rhai Celtaidd (megis Gwyddeleg, Cymraeg a Llydaweg), yr ieithoedd Slafaidd (sy’n cynnwys Rwseg, Pwyleg, Sorbeg a Macedoneg), Germanaidd (megis Saesneg, Almaeneg, Ffriseg ac Islandeg), Romáwns (megis Catalaneg, Rwmaneg, Castileg ac Ocsitaneg), a hefyd Groeg, Albaneg a Romani, sef yr iaith Indo-Iranaiadd a siaredir gan lawer o sipsiwn Ewrop.
Mae ieithoedd Ewrop wedi benthyca geiriau gan ei gilydd trwy gydol eu hanes – a chan ieithoedd ar gyfandiroedd eraill wrth gwrs hefyd – mewn cydberthynas ffrwythlon. Mae Twrceg, er enghraifft, wedi cyfrannu geiriau i lawer o ieithoedd Ewrop, megis haviar (‘cafiar’) a yoghurt (‘iogwrt’). Mae’r gair sauna, a ddefnyddir mewn llu o ieithoedd, yn deillio o Ffinneg.
Y brif her sy’n wynebu cymdeithasau Ewropeaidd heddiw yw sut i gynnal yr amrywiaeth ieithyddol y maent wedi’i datblygu heb fod hyn yn tanseilio eu hundod diwylliannol, ochr yn ochr â gwahanol ieithoedd yr ymfudwyr sy’n dod yn fwyfwy pwysig. Mae hyn yn golygu bod angen cael hyd i fformwlâu goruwchgenedlaethol ar gyfer cyfathrebu â’n gilydd na fyddant yn ffafrio goruchafiaeth unrhyw iaith dros y lleill, ac yn ogystal sicrhau bywyd parhaus i’r holl ieithoedd hynny ar draws y cyfandir sydd, am resymau economaidd neu wleidyddol, mewn sefyllfa wan sy’n peryglu eu posibiliadau o oroesi.