Faint o ieithoedd a siaredir yng Nghatalwnia? Pa ieithoedd ydynt? Y newid mwyaf a welwyd yn natur ddemograffig y boblogaeth yng Nghatalwnia dros y blynyddoedd diwethaf yw ei tharddiad daearyddol. Nid oes cynifer o bobl o gymaint o wledydd ar draws y byd wedi cydfyw yno erioed o'r blaen, ac mae'n debyg na fu'r fath amrywiaeth ieithyddol i''w chlywed yno erioed. Canys mae'r ymfudwyr wedi dod â'u hieithoedd gyda nhw, a thra bod nifer ddigonol o siaradwyr gan rai ohonynt i sicrhau y byddant yn goroesi yng Nghatalwnia, mae eraill wedi cyrraedd gydag un siaradwr neu ddyrnaid fach ac o ganlyniad mi fydd yn anodd i'r genhedlaeth nesaf eu cadw'n fyw.
Darlun tra amrywiol a welir felly o ieithoedd y Catalaniaid ar ddechrau'r 21ain ganrif -tua thri chant o ieithoedd o bob cwr o'r byd- a dangosir inni hefyd ddwy ddelwedd glir: yn gyntaf, y teuluoedd ieithyddol hynny sydd ar y ffordd i ebargofiant (Khoisan, Chuchi-Kamchatka, Na-dene, Esgim-Alewteg, Awstralianeg), nas cynrychiolwyr bron yng Nghatalwnia , ac yn ail ieithoedd y gwahanol famwledydd -ni waeth faint o bobl sy'n eu siarad-, sy'n gadael eu hôl annileadwy mewn modd cryfach o lawer na'r ieithoedd swyddogol gan ddangos inni darddleoedd y Catalaniaid na chawsant eu geni yng Nghatalwnia.
Am ieithoedd Ewrop, ochr yn ochr â thyfiant digyffelyb Eidaleg yn y blynyddoedd diwethaf gwelwyd yr un cynnydd gan Rwmaneg a Moldofeg, dwy iaith Romáwns. Mae presenoldeb yr ieithoedd Slafig, a Rwsieg yn enwedig, wedi cynyddu'n sylweddol, ac yng Nghatalwnia heddiw mae siaradwyr Pwyleg, Wcreineg, Bielorwsieg, Tsieceg, Slofaceg, Slofeneg, Macedoneg, Bwlgareg ayyb. O fewn y teulu Indo-Ewropeaidd mae Albaneg, Armeneg, Latfeg a Lithwaneg, er bod y cymunedau hyn yn gymharol fach, i'w clywed yma a thraw ar draws Catalwnia . Yn y teulu Wraleg mae rhai siaradwyr Sami a Ffinneg, ond y ddwy gymuned sydd wedi tyfu fwyaf yn y blynyddoedd diwethaf hyn yw siaradwyr Estoneg a Hwngareg. Y ddwy iaith o'r Cawcasws sydd â'r nifer fwyaf o siaradwyr yng Nghatalwnia yw Georgeg a Chechen.
O blith gwledydd Asia, Pacistan, Tsieina ac Ynysoedd Pilipinas yw mamwledydd y nifer fwyaf o bobl sydd wedi ymfudo i Gatalwnia dros y blynyddoedd diwethaf. Dylid sôn yn ogystal am India, Nepal a Mongolia. Nid yw'r Mongoliaid yn niferus eto, ond mae eu nifer yn cynyddu'n raddol. Am ieithoedd Asia, mae llawer o'r teulu Indo-Ewropeaidd yn bresennol yng Nghatalwnia -ac mae gan rai nifer dda o siaradwyr -. Mae'r ieithoedd canlynol yn perthyn i'r grŵp hwn: Panjabi, Marathi, Hindi, Bengali, Wrdw, Gwjarati, Nepaleg, Concani, Sindhi, ymhlith eraill. Yn y grŵp hwn hefyd mae siaradwyr Pashtwn, Perseg, Sinhala, Cwrdeg ac ieithoedd eraill. De'r India yw cartref yr ieithoedd Drafidig, sydd â nifer o siaradwyr yng Nghatalwnia, er nad y grwpiau o siaradwyr Tamil, Malaialam, Telugu a Kanada'n yw'r Indiaid mwyaf niferus yn ôl pob tebyg. Rhennir y teulu Altäig yn dri grŵp ac, yn ôl rhai awduron, mae'n cynnwys Corëeg a Siapaneg hefyd.
Yng Nghatalwnia siaredir ieithoedd sy'n perthyn i ddau o'r grwpiau hyn, sef Tyrcïeg (sy'n cwmpasu Tyrceg, Wsbec, Aseri a Chasach) a Mongoleg (Khalkha Calmwc). Teulu Asiaidd arall a gynrychiolir yn gryf, o ran y nifer o ieithoedd a'r nifer o siaradwyr, yw Sino-Tibeteg. Mae gan holl amrywiolion yr iaith Tsieinëeg, Tibeteg a Byrmaneg, ymhlith eraill, siaradwyr yng Nghatalwnia. Ac yn olaf, mae ieithoedd y grŵp Awstrig (Fietnameg, Laoseg, Thai, Khmer ayyb) yn bresennol hefyd, er bod y nifer o siaradwyr yn fach iawn.
Cynrychiolir y teulu Awstronesaidd - sef yr ieithoedd a siaredir ar draws ynysoedd Môr y De ac ym Madagascar - gan ieithoedd Pilipinas: Pangasinan, Tagal, Ilocano, Pampangan, Bicol, Cebuano, Hiligaynon a Waray-waray. Mae'r rhain ac eraill ymhlith y grŵp o fwy nag ugain o ieithoedd Pilipinas y gwyddys eu bod yn cael eu siarad heddiw yng Nghatalwnia. Gellir ychwanegu ieithoedd eraill at y rhestr hon, megis Malagasi, Indoneseg, Rapanui, Maori, Jafaneg, Malai ayyb sydd, er nad ydynt yn cael eu siarad gan grwpiau sylweddol, yn ffurfio rhan o'n hetifeddiaeth ieithyddol ni heddiw. O gyfandir América mae Sbaeneg a Phortwgaleg wedi cyrraedd yn eu holl amrywiaeth, yn ogystal â nifer o ieithoedd Amerindiaidd, megis Cetshwa - â siaradwyr o Ecwador, Perŵ, Bolifia a gwledydd eraill -, Aimara, Maia, Nahua, Gwaraní, Mapudungu, Sapoteca, Shwar ac eraill.
Yn olaf, mae'r ieithoedd sydd wedi cyrraedd o Africa'n perthyn i dri theulu gwahanol. Yn gyntaf, mae Kanuri a Songhai'n rhan o'r teulu Nilo-Saharaidd. Yn ail, o'r teulu Affro-Asiaidd mae gennym yr iaith Arabeg fel aelod cryf o'r grŵp Semitig, mewn cymhariaeth â Hebraeg ac Amhareg. Mae Amasic, un o'r ieithoedd a siaredir fwyaf yng Nghatalwnia, yn perthyn i'r grŵp Berberaidd o'r teulu hwn. Ac mae gennym ddyrnaid o siaradwyr i gynrychioli Somali yn y grŵp Cwshitig a Hawsa yn y grŵp Tsiadig o'r teulu Affro-Asiaidd.
Ac yn olaf i gyd, o'r teulu Niger-Congolaidd mae gennym: ieithoedd o'r grŵp Atlantig megis Ful, Wolof, Diola a Serer; ac o'r grŵp Manding ieithoedd megis Diula, Soninké, Bambara, Kpelle, Vai, Mandinga ayyb; ynghyd â rhai'r o'r grŵp Benue- Congolaidd, a gynrychiolir yn bennaf yng Nghatalwnia gan ieithoedd y grŵp Kwa (Akwapem, Twi, Akan, Fanti, Fon, Ewe, Iorwba, Ga, Igbo ayyb) a hefyd gan yr ieithoedd Bantw, a gynrychiolir yma ers cryn amser gan siaradwyr Bubi, Fang, Ewondo ac ieithoedd eraill Gini Gyhydeddol. Ac er nad oes cymunedau niferus iawn hyd yma, gellir sôn hefyd bellach am bresenoldeb siaradwyr Swahili, Lingala, Kikongo, Duala ac eraill.