Wrth drafod ieithoedd ardal Môr y Canoldir, dylem egluro’n gryno ar ba sail y mae Linguamón – Tŷ’r Ieithoedd wedi mynd ati i lunio’r gronfa ddata hon.
Gellir rhannu’r ieithoedd yn yr adran hon yn ddau floc mawr:
Yn unol â’r criteria hyn, nid ymddengys ieithoedd megis Galiseg na Llydaweg ymhlith ieithoedd ardal Môr y Canoldir gan nad yw’r tiriogaethau lle y’u siaredir yn cyrraedd glannau Môr y Canoldir, er iddynt gael eu siarad mewn dwy wladwriaeth sydd ar lannau Môr y Canoldir, sef Ffrainc a Sbaen.
Ar y llaw arall mae’r Saesneg yn bresennol yn ein cronfa ddata gan ei bod yn iaith swyddogol ar Ynys Melita ac yng Ngibraltar yn sgil gwahanol brosesau hanesyddol.
O safbwynt tiriogaethol, mae ieithoedd o dri theulu ieithyddol wedi cydgyfarfod o gwmpas Môr y Canoldir:
Mae hanes ieithyddol glannau Môr y Canoldir yn llawn gwrthgyferbyniadau: ar y naill law mae’r ardal wedi gweld dau o’r ymlediadau ieithyddol mwyaf ysgubol – gan Ladin ac Arabeg – ac, ar y llaw arall, mae’n esiampl dda o gydfodolaeth cymunedau ieithyddol tra gwahanol.
Yr un fath ag ym moroedd eraill y byd, mae llwybrau morawl Môr y Canoldir wedi hyrwyddo cydgysylltiadau rhwng pobloedd tra amrywiol. Mae’r dystiolaeth i’r fath gyfnewidiadau i’w gweld mewn ieithoedd ym mhedwar ban y byd.
Er enghraifft: mae Groeg yn meddu ar drysorfa o eiriau megis catalog, diemwnt, papur a trasiedi, a ddefnyddir heddiw mewn ieithoedd heb yr un cysylltiad â Môr y Canoldir. Trwy gyfrwng yr iaith Roeg mae diwylliant yr Aifft hefyd wedi rhoi i’r byd eiriau megis papyrws a pyramid. Mae llu o enwau anifeiliaid, a welir bellach yng ngeiriaduron y rhan fwyaf o ieithoedd ein planed, wedi tarddu o Roeg hefyd: camel, crocodeil, dromedari, estrys, hipopotamws, llewpart, rhinoseros... Yn ogystal â darparu cyfoeth o dermau ar gyfer pethau mewn bywyd beunyddiol (cortyn, pisyn, esgob, sandal), mae Groeg yn dal i fod yn ffynhonnell a ddefnyddir i fathu geiriau newydd a thermau a adeiledir ar sail elfennau Groeg neu Ladin (teleffon, hypocondria, metaffiseg, hypertroffig, etc.).
Cydrennir rôl yr iaith Roeg wrth ddarparu newyddeiriau a thermau technegol a diwylliedig ar gyfer ieithoedd eraill gan iaith arall o lannau Môr y Canoldir, sef Lladin. Dyma iaith sydd wedi datblygu i wahanol gyfeiriadau dros y canrifoedd i roi bodolaeth i’r ieithoedd Romáwns, sydd wedi ymwasgaru yn eu tro a chymryd eu lle fel ieithoedd swyddogol ar bob cyfandir. Trwy gyfrwng yr ieithoedd hyn, ynghyd â’r Saesneg yn nes ymlaen, mae geiriau megis awditoriwm, eglwys, ffantasi, ffòrwm, melin a trindod, a llawer mwy, wedi teithio’r byd.
Mae Arabeg wedi cyfrannu llu o dermau i ieithoedd y byd hefyd trwy’r gyfnewidfa a ffurfiai diwylliannau Môr y Canoldir. Mae’r rhan fwyaf o ieithoedd cyfoes wedi mabwysiadu termau megis sero, arithmetig ac algebra, ac eraill a ddefnyddir o ddydd i ddydd megis cotwm, coffi, oren, jar a soffa.
Yn ogystal â geiriau unigol, tystiolaeth ychwanegol i’r cyfnewid ieithyddol rhwng pobloedd Môr y Canoldir oedd y lingua franca, sef y fratiaith a ddefnyddid ym mhorthladdoedd y Môr hwnnw o oes y Croesgadau tan ddechrau’r XXfed ganrif gan forwyr a masnachwyr Ewropeaidd, Twrcaidd ac Arabaidd. Sylfaen Romáwns sydd i lingua franca Môr y Canoldir, ond mae’n cynnwys elfennau Groegaidd, Twrcaidd ac Arabaidd.
Defnyddir y term lingua franca heddiw i gyfeirio at unrhyw iaith sy’n gwasanaethu fel cyfrwng cyfathrebu rhwng dau neu fwy o grwpiau – neu bobl – nad oes ganddynt iaith yn gyffredin. Yn yr ystyr hwn, mae Aramaeg yn esiampl amlwg o lingua franca a ddefnyddiwyd yn henfyd y Dwyrain Canol ac ar hyd glannau dwyreiniol Môr y Canoldir, nes iddi gael ei disodli gan Arabeg o’r VIIfed ganrif ymlaen.
Ar wahân i Saesneg, a ddefnyddir heddiw fel lingua franca ar raddfa fyd-eang, mae esiamplau clasurol o linguae francae y tu draw i ffiniau Ewrop yn cynnwys Náhwatl, Swahili a Kate, sydd hwythau wedi disodli llu o ieithoedd brodorol wrth ymledu.