|     Cysylltwch â Ni      |     

LINGUAMÓN - Casa de les Llengües

Ieithoedd y Byd

Hafan > Amrywiaeth Ieithyddol > Ieithoedd y Byd

Ieithoedd y Byd

Mae gwahanol astudiaethau ar ieithoedd yn dangos bod rhyw 6,000 ohonynt yn cael eu siarad ar draws y byd. Ond dosraniad anghytbwys dros ben sydd iddynt ar y pum cyfandir. 

Mae’r ieithoedd Affricanaidd ac Asiaidd yn cynrychioli rhyw 32 y cant yr un, rhai’r cyfandir Americanaidd yn cynrychioli 15 y cant, a rhai’r Môr Tawel yn cynrychioli 18%. Mae cyfandir Ewrop yn gartref i ddim ond 3 y cant o ieithoedd y byd. 

Mae hanner ieithoedd y byd wedi eu cyfyngu i wyth gwladwriaeth yn unig: Papwa Gini Newydd (832), Indonesia (731), Nigeria (515), Yr India (400), Mécsico (295), Camerŵn (286), Awstralia (268) a Brasil (234).
 
Er gwaethaf y nifer fawr o ieithoedd sydd yn bodoli a’r angen i’w cadw, ychydig iawn ohonynt sydd mewn iechyd da. Mae’n debyg y bydd bydoli yn achosi i rai cymunedau gefnu ar eu hiaith. Ond ar y llaw arall gallai fod yn gyfle i ledaenu’n rhwyddach y gwahanol ieithoedd sydd yn cyd-fyw ar ein planed. 

Yn ôl UNESCO, mae rhyw 50 y cant o’r 6,000 o ieithoedd yn y byd mewn pergyl o fynd i ebargofiant, ac mae 96 y cant o’r rhain yn cael eu siarad gan 4 y cant yn unig o boblogaeth y byd. At hynny, mae mwy na 90 y cant o gynnwys y Rhyngrwyd wedi’i gyfyngu i 12 o ieithoedd yn unig. 

Generalitat de Catalunya
Casa de les Llengües ©