Siaredir rhyw 1,000 o ieithoedd ar draws Ynysoedd y De neu Oceania, ac mae’r mater o sut i’w categorïo’n codi nifer o amheuaethau. A siarad yn fras gellir gwahaniaethu rhwng tri grŵp:
• yr ieithoedd Awstronesaidd
• ieithoedd Papwa Gini Newydd nad ydynt yn Awstronesaidd
• ieithoedd Awstralia
Mae rhai damcaniaethau’n honni bod yr ymfudiadau cyntaf i’r rhan hon o’r byd wedi dod o Affrica, gan gyrraedd mor bell ag ynys Papwa ac Awstralia. Yn unol â hyn mae rhai awduron yn argymell bodolaeth teulu ieithoedd Awstralaidd ynghyd â theulu Indo-Pasiffig, fyddai’n cynnwys iaith ddiflanedig Tasmania ac ieithoedd Ynysoedd Andaman.
Mae’r ieithoedd Awstronesaidd, a rennir yn yr is-grwpiau Melanesaidd, Polynesaidd a Micronesaidd, wedi’u gwasgaru yn bennaf trwy Bolynesia, Micronesia, Melanesia a Seland Newydd. Gwelwn esiamplau ohonynt o Ynys y Pasg (Rapa Nwi) a Hawäi (Hawäieg) i Seland Newydd (Maori). Mae Malagasi, iaith a siaredir ym Madagascar, hefyd yn aelod o’r teulu Awstronesaidd.
Mae dosbarthiad yr ieithoedd hyn yn adlewyrchu hanes o ynysoedd, anghyfannedd fel arfer, yn cael eu poblogi’n raddol. Cydnabuwyd y gydberthynas rhwng yr ieithoedd Awstronesaidd mor gynnar â mordeithiau cyntaf Capten Cook.
Erys ieithoedd Papwa Gini Newydd nad ydynt yn Awstronesaidd yn gymharol anhysbys o hyd. Er bod rhai awduron wedi tybio bod perthynas rhyngddynt a Thasmaneg a’r ieithoedd Andamanaidd, mae eraill yn amau y gellir profi cydberthynas fewnol sicr o fewn y grŵp hyd yn oed. Dau aelod o’r grŵp hwn yw Kate, a fu’n lingua franca rhwng gwahanol grwpiau cyn i fratiaith Tok Pisin ymledu, a Dani, un o’r ychydig ieithoedd yn y byd nad oes ond dau derm ganddi i wahaniaethu rhwng lliwiau.
Yn achos ieithoedd Awstralia, nid oes ond tua 200 o ieithoedd ar ôl bellach o’r 750 neu fwy a siaredid ar y cyfandir hwnnw pan gyrhaeddodd yr Ewropeaid cyntaf, a dyrnaid brin o bobl sy’n siarad llawer ohonynt erbyn hyn.
Er gwaethaf eu nifer doreithiog, nid yw ieithoedd Ynysoedd y De wedi llwyddo i wrthsefyll pwysedd y broses wladychfaol, ac yn y rhan hon o’r byd y mae’r nifer uchaf o ieithoedd brodorol yn diflannu heddiw. Mae Samöeg, iaith swyddogol yn Samoa a siaredir gan ryw 130,000 o bobl, yn un o’r eithriadau prin.
Un achos go ryfedd yw’r iaith a adnabyddir fel Besh-la-mar, sy’n gymysgedd o Saesneg, Ffrangeg, Castileg a gwahanol ieithoedd brodorol. Fe’i defnyddid fel pont mewn rhannau o’r Môr Tawel lle na siaredir Ffrangeg, ac mae ganddi eiriadur a llenyddiaeth hyd yn oed.
Mae statws swyddogol gan Ffrangeg neu Saesneg yn y rhan fwyaf o wladwriaethau Ynysoedd y De. Ar wahân i Fanwatw, lle mae Saesneg, Ffrangeg a Bislama’n ieithoedd swyddogol, a Chelyddon (Caledonia) Newydd a Pholynesia Ffrengig, lle mae Ffrangeg yn iaith swyddogol, yr iaith swyddogol ar draws rhannau helaeth o Ynysoedd y De yw Saesneg.
Mae Siapaneg, Tseinëeg a Hindi wedi cael eu cyflwyno hefyd i wahanol leoedd ar draws Ynysoedd y De, megis Hawäi, lle y siaredir Tseinëeg a Siapaneg o hyd, ac Ynysoedd Ffiji lle y mae siaradwyr Hindi’n dal i fyw.
Yn achos ieithoedd Papwa Gini Newydd, y wladwriaeth sydd â’r amrywiaeth ieithyddol fwyaf yn y byd, mae’n ymddangos bod y penderfyniad i ddefnyddio Tok Pisin fel iaith swyddogol yn fygythiad i ieithoedd yr ardal.
Mae rhai o’r geiriau o ieithoedd Ynysoedd y De wedi cyrraedd ymhell yn y byd trwy ddylanwad y Saesneg. Maent yn cynnwys iwcalili (Hawäieg), tabŵ a tatŵ (Tongeg) a kiwi (Maori). O’r ieithoedd Awstralaidd mae gennym y gair bŵmerang, a oedd yn wreiddiol yn enw ar grŵp ethnig lleol, ac enwau nifer o anifeiliaid megis dingo, coala a cangarŵ.