Siaredir ar gyfandir Affrica tua 1,500 o ieithoedd sy’n perthyn i bedwar teulu ieithyddol: sef y teuluoedd Affro-Asiaidd, Nigero-Congolaidd, Nilo-Saharaidd a Khoisan.
Gellir rhannu’r teulu Affro-Asiaidd, a geir yng ngogledd y cyfandir, mewn pump o grwpiau:
• Semiteg
• Berbereg
• Hen Eiffteg
• Cwshiteg
• Tsiadeg
Mae’r grŵp Semitaidd yn cynnwys, ymhlith eraill, Arabeg ac Amhareg — iaith swyddogol Ethiopia. Mae’r grŵp Berberaidd yn cynnwys Amaseg, Twareg a Gwantsieg, a siaredid gynt yn yr Ynysoedd Dedwydd. Hen Eiffteg yw’r unig iaith y gwyddys amdani yn ei grŵp. Mae’r grŵp Cwshitaidd yn cwmpasu ieithoedd megis Somaleg — iaith swyddogol yn Somalia— ac Oromeg. Yn olaf, Mae’r grŵp Tsiadaidd yn cynnwys Hawsa, yr iaith a siaredir gan y nifer uchaf o bobl yn Affrica ar ôl Arabeg.
Y teulu Nigero-Congolaidd yw’r grŵp ieithyddol mwyaf yn y byd ar ôl y grŵp Awstronesaidd. Mae’n ymestyn o Senegal i Genia a hyd at eithafon deheuol y cyfandir. Fe’i rhennir yn y grwpiau canlynol:
• Mandinga
• Kordoffaneg
• Congoleg Atlantaidd. Mae’r grŵp ieithyddol hwn yn cynnwys is-grwpiau megis Atlanteg (Ffwl, Woloff, Serer), Kwa (Akan, Ewe, Iorwba, Igbo) a Benwe-Congoleg, sy’n cynnwys yr ieithoedd Bantŵaidd (Swahili, Ffang, Swlw, Kikongo, Kimbwndw, Kikwiw ayyb.); cydnabuwyd y gydberthynas rhwng yr is-grwpiau hyn yn gymharol gynnar.
Ceir ieithoedd y teulu Nilo-Saharaidd mewn gwahanol gnewyll tir rhwng y teuluoedd Affro-Asiaidd a Nigero-Congolaidd. Mae’n cynnwys Masai, Tsil•luk, Kanwri, Songhai a Nwer, ymhlith eraill.
Yn olaf, mae ieithoedd y teulu Khoisan wedi’u gwasgaru ar draws deheubarth y cyfandir. Mae’n cwmpasu ieithoedd megis Nama a Kwadi.
Ar wahân i’r ieithoedd yn y pedwar teulu hyn, ar gyfandir Affrica siaredir hefyd, o ganlyniad i’w hanes gwladychol, Saesneg, Ffrangeg, Portwgaleg a Sbaeneg. Wrth i’r trefedigaethau ennill annibyniaeth, dewisodd llawer o wladwriaethau Affricanaidd fabwysiadu iaith Ewropeaidd fel iaith swyddogol: Portwgaleg er enghraifft ym Moçambique, Angola, Gini Bissau a gwahanol ynysoedd ym Môr Iwerydd; Sbaeneg yng Ngini Cyhydeddol, a Saesneg a Ffrangeg mewn nifer o wladwriaethau.
O safbwynt deinameg ieithoedd, gellir ystyried Affrica yn anad dim yn gyfandir o amrywiaeth ieithyddol, gan taw dyma’r rhan o’r byd lle y gwelir y ganran isaf o brosesau disodli (tuag 20%, o’i chymharu â 50% ar raddfa fyd-eang). Nodwedd arwyddocaol arall yw, tra bod ieithoedd sy’n darfod mewn rhannau eraill o’r byd yn arfer cael eu disodli gan ieithoedd Ewropeaidd, yn Affrica ieithoedd Affricanaidd eraill (Swahili, Woloff, Hawsa, Ffwl, Tsisiona) sy’n cymryd lle’r rhai sydd yn trengi.
Mae geiriau o ieithoedd Affrica wedi teithio i bedwar ban y byd. O Fantw, er enghraifft, y daeth geiriau megis fwdw, sombi, tsimpansî a saffari. Mae’r gair cola, sy’n tarddu o’r iaith Ewe, wedi cyrraedd llu o ieithoedd eraill diolch i Coca-Cola, a daw banana o’r gair Woloff am ffrwyth.
Rydym yn dal i ddefnyddio rhai geiriau hyd yn oed o Hen Eiffteg, iaith Affricanaidd a fu farw ganrifoedd maith yn ôl, megis endif (enw arall ysgall y meirch), gwm, oasis (gwerddon) ac eboni. Yn ogystal ddefnyddir nifer fawr o eiriau ym mhob rhan o’r byd sydd wedi tarddu o ieithoedd megis Amaseg ac Arabeg, e.e. cotwm, oren, algebra, alcohol.