|     Cysylltwch â Ni      |     

LINGUAMÓN - Casa de les Llengües

Cadair Brifysgol Linguamón – UOC mewn Amlieithedd

Hafan > Amlieithedd a Gweinyddiaeth > Cadair Brifysgol Linguamón – UOC mewn Amlieithedd

Cadair Brifysgol Linguamón – UOC mewn Amlieithedd

signatura_càtedra_multilingüisme

Mae Linguamón – Tŷ’r Ieithoedd a’r Universitat Oberta de Catalunya (UOC: Prifysgol Agored Rithwir Catalwnia) wedi sefydlu Cadair Brifysgol Linguamón – UOC mewn Amlieithedd, o ganlyniad i’r cytundeb gweithredu a lofnodwyd ar 21ain Rhagfyr 2006 gan gynrychiolwyr y ddau sefydliad hyn, sef Prifathrawes yr UOC, Imma Tubella, a Chyfarwyddwr Linguamón- Tŷ’r Ieithoedd, Antoni Mir.

Amcanion

Mae’r Gadair hon yn hybu gwaith ymchwil, hyfforddi, hysbysu a dogfennu yng nghyswllt amlieithedd fel cyfrwng datblygiad cymdeithasol ac economaidd. Gyda golwg ar gyflawni’r amcanion hyn, bwriedir i’r gadair fod yn sefydliad sy’n hyrwyddo myfyrdod a dadansoddiad rhyng-ddisgyblaethol ynghylch rôl ieithoedd ac amlieithedd yn y broses globaleiddio sy’n effeithio ar y gymdeithas. Mae’n anelu hefyd at greu fframwaith ar gyfer y cydweithredu rhyngwladol sy’n angenrheidiol i hyrwyddo hyfforddiant academaidd yn y maes hwn.

Ei nod yw bod yn sefydliad sy’n creu ac yn cydrannu gwybodaeth, a all hwyluso mecanweithiau o blaid newid fydd yn helaethu buddion amlieithedd, ac yn gyfrwng i gymell cydweithrediad ymhlith ymchwilwyr o’r rheng flaenaf ar raddfa ryngwladol, addysgwyr prifysgol a chynrychiolwyr sefydliadau eraill.

Y Bwrdd Gweithredol

Mae Bwrdd Gweithredol adran y gadair yn cynnwys pedwar cynrychiolydd o’r UOC a dau aelod o Dŷ’r Ieithoedd. Y cyfarwyddydd yw pennaeth Astudiaethau Dynoliaethol yr UOC, Isidor Marí; a Miquel Strubell, athro Astudiaethau Iaith a Diwylliant ar hyn o bryd, yw’r ysgrifennydd.

Bu Isidor Marí gynt yn athro yng Nghyfadran Celfyddydau’r Ynysoedd Balearaidd. Rhwng 1980 a 1996 fe ddaliodd sawl swydd yn Llywodraeth Catalwnia, gan gynnwys fel pennaeth y Gwasanaeth Cynghori Ieithyddol (1980-1988) ac is-gyfarwyddwr Polisi Iaith Llywodraeth Catalwnia tan y flwyddyn 1996, pan ymunodd â Phrifysgol Agored Catalwnia.

Bu Miquel Strubell yn bennaeth Gwasanaeth Safoni Ieithyddol Generalitat (Llywodraeth) Catalwnia ym 1980. Ers hynny mae wedi bod yn bennaeth ar Athrofa Ieithyddol Gymdeithasol Catalwnia, ysgrifennydd Cyngor Cymdeithasol yr Iaith Gatalaneg (corff ymgynghorol sy’n hyrwyddo cyfranogiad cymdeithasol ym mholisi iaith Generalitat Catalwnia) ac is-lywydd y Consortiwm dros Safoni Ieithyddol, sefydliad sy’n hybu’r defnydd o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd cymdeithasol, nes iddo ymuno â’r UOC ym 1999 fel athro. 

Argymhelliad yr Undeb Ewropeaidd

Mae sefydlu’r Gadair hon yn cydfynd â’r gweithredu strategol newydd o blaid amlieithedd sy’n cael ei hybu gan y Comisiwn Ewropeaidd [COM (2005) 596 final]. Mae’r Hysbysiad hwn yn mynnu bod llywodraethau gwladwriaethol, rhanbarthol a lleol yn cymryd mesurau o blaid amlieithedd ac yn argymell, ymhlith gweithgareddau eraill, y dylid creu astudiaethau ynghylch amlieithedd ar sail cadeiriau prifysgol yng nghyswllt amrywioldeb ieithyddol.

Generalitat de Catalunya
Casa de les Llengües ©