|     Cysylltwch â Ni      |     

LINGUAMÓN - Casa de les Llengües

Cyfeiriadur arferion da

Hafan > Amlieithedd a Gweinyddiaeth > Cyfeiriadur arferion da

Cyfeiriadur arferion da

Strwythur y Cyfeiriadur

Mae Linguamón – Tŷ’r Ieithoedd yn cynnig mynediad i’r cyfeiriadur arferion da mewn amlieithrwydd. 

Mae’r cyfeiriadur yn cynnull yr arferion da hynny a ddilyswyd gan Linguamón, y grwpiau gwaith a’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y prosiect. Rhestr ddeinamig ydyw fydd yn tyfu’n gyson wrth i argymhellion newydd gael eu hychwanegu yng nghyswllt gweithredu er lles ieithoedd.

Gellir cyrchu arferion da trwy wahanol opsiynau chwilio: iaith, dyddiadau, geiriau allweddol, teitl, math o weithgarwch ayyb. 

Rydym wedi trefnu’r wybodaeth yn y modd canlynol:

1) Gwybodaeth gyffredinol am yr iaith a’r gymuned ieithyddol lle mae’r arfer da dan sylw wedi cael ei weithredu: ardal ddaearyddol a data ieithyddol a chymdeithasol 

2) Gwybodaeth am yr arfer da penodol:

• Diffiniad: beth yn union yw’r arfer da
• Pwynt cychwyn: yr achosion sy’n cyfiawnhau’r fenter
• Prif dargedau’r arferion da
• Disgrifiad: gwybodaeth fwy manwl am yr arfer da
• Casgliadau: yn cynnwys gwerthusiad a chyngor neu argymhellion dichonol 
• Sylwadau a llyfryddiaeth

3) Dogfennau atodedig. Mewn rhai achosion darperir ffeiliau testun, delweddau a sain y gellir eu cyrchu ar-lein.


I gael mwy o wybodaeth: 
linguamonbp@linguamon.cat 
 

Generalitat de Catalunya
Casa de les Llengües ©