|     Cysylltwch â Ni      |     

LINGUAMÓN - Casa de les Llengües

Arferion Da Linguamón

Hafan > Arferion Da Linguamón

Arferion Da Linguamón

Arferion Da

Mae Linguamón – Tŷ’r Ieithoedd yn lansio Arferion Da Linguamón mewn Amlieithrwydd, sef gwasanaeth sy’n agored i bob cymuned ieithyddol gyda golwg ar hyrwyddo ieithoedd y byd mewn modd cyfartal a chydraddol. 

Mae Arferion Da Linguamón yn awyddus i gyfrannu’n weithgar ac yn gadarnhaol at amddiffyn cynaladwyedd ieithoedd, ac i wneud hyn mae’n canolbwyntio ei weithgareddau ar hybu a hyrwyddo’r arferion da hynny ym maes meithrin amlieithrwydd ac amrywiaeth ieithyddol sydd wedi cael eu rhoi mewn grym yn foddhaol gan wahanol gymunedau ieithyddol. 

Mae Arferion Da Linguamón hefyd yn bwriadu cynnig cyngor, trwy gyfrwng adroddiadau ac argymhellion, ynghylch y sefydliadau hynny (yn llywodraethau, cymdeithasau a chwmnïau) sy’n dymuno addasu’r modd y maent yn trin ieithoedd ar sail yr egwyddor o barch tuag at amrywiaeth ieithyddol.

Mae Arferion Da Linguamón am weithio gyda:

• Sefydliadau llywodraethol ac an-lywodraethol sydd am fabwysiadu’r criteria o gynaladwyedd a pharch tuag at amrywiaeth ieithyddol.  

• Sefydliadau llywodraethol sy’n dymuno cyfrannu at gynnal amrywiaeth ieithyddol yn eu tiriogaeth. 

• Cymdeithasau, sefydliadau a chwmnïau sy’n dymuno adolygu neu addasu’r arferion o ran y defnydd a wneir o wahanol ieithoedd. 

• Gweithwyr proffesiynol ym meysydd gweinyddu a chynllunio ieithyddol, dysgu ieithoedd; arbenigwyr mewn ieitheg gymwysedig, ieithyddiaeth gymdeithasol ayyb.

• Y cyhoedd yn gyffredinol.

Generalitat de Catalunya
Casa de les Llengües ©