Cyflawnir y dasg o adnabod, gwerthuso a chyfundrefnu arferion da yng nghyd-destun grwpiau gweithio sy’n gysylltiedig â’r gwahanol ieithoedd.
Mae arferion da’n gallu bod yn weithredoedd diriaethol ac yn brosesau cymhleth. Dadansoddi a disgrifio’r prosesau hyn yw un o’r tasgau a gyflawnir gan y gwahanol grwpiau gwaith.
Er mwyn disgrifio a chyfundrefnu’r profiad Catalanaidd, fe sefydlwyd y Cyngor Gwyddonol Catalanaidd, ac mae grwpiau gwaith wedi dechrau gweithredu mewn gwahanol ardaloedd a sectorau.