|     Cysylltwch â Ni      |     

LINGUAMÓN - Casa de les Llengües

Gwasanaeth Ymgynghori a Gweinyddu Adnoddau

Hafan > Amlieithedd a Gweinyddiaeth > Gwasanaethau > Gwasanaeth Ymgynghori a Gweinyddu Adnoddau

Gwasanaeth Ymgynghori a Gweinyddu Adnoddau

Ymgynghori a gweinyddu adnoddau

Mae gan bob arfer da y potensial i fod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol cyhyd â’i fod yn cael ei addasu at y sefyllfa. Gweinyddu’r broses o drosglwyddo ac addasu yw un o wasanaethau Arferion Da Linguamón. 

Nod y gwasanaeth hwn yw hwyluso addasiad arferion da yn unol â gwir anghenion y sefydliad dan sylw, trwy gyfrwng dull o weithio sy’n cwmpasu, ymhlith agweddau eraill, ddadansoddi anghenion a sefydlu blaenoriaethau, trefnu ymweliadau, llunio adroddiadau ar sail arsylwadau, a chynllunio hyfforddiant yn ôl yr anghenion penodol. 

Mae mentrau cyflenwol eraill yn cynnwys: paratoi casgliadau o’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gweinyddu amlieithrwydd; paratoi argymhellion i sefydliadau ynghylch sut i ymdrin ag amlieithrwydd; sefydlu criteria ar gyfer mabwysiadu arferion amlieithog ayyb.

Rhagwelir y bydd systemau cymhorthdal ar gael ar gyfer ariannu prosiectau sy’n deillio o drosglwyddiad arferion da ac addasiad adnoddau, ymhlith pethau eraill.

Generalitat de Catalunya
Casa de les Llengües ©