|     Cysylltwch â Ni      |     

LINGUAMÓN - Casa de les Llengües

Gwasanaeth Cyhoeddusrwydd

Hafan > Amlieithedd a Gweinyddiaeth > Gwasanaethau > Gwasanaeth Cyhoeddusrwydd

Gwasanaeth Cyhoeddusrwydd

Cyhoeddusrwydd

Un o’r dulliau hanfodol o sicrhau bod arferion da’n derbyn cyhoeddusrwydd ac yn cael eu cydrannu yw’r cyfeiriadur arferion da mewn amlieithrwydd.  

Amcan y gwasanaeth cyhoeddusrwydd yw annog a chynorthwyo sefydliadau, gweinyddiaethau a chwmnïau i fabwysiadu arferion da. Mae’r offer a ddefnyddir i gyrraedd y nod hwn yn cynnwys: 

•  Creu awyrgylch barn sydd o blaid mabwysiadu arferion da trwy gyfuniad o wahanol fentrau: cyflwyniadau cyhoeddus mewn cynadleddau a sesiynau gweithdy; trefnu cyfresi o ddarlithoedd; cyd-drefnu fforymau trafod a chyfranogi; casglu ysgrifau ar themâu cyffredin; denu sylw’r cyfryngau ayyb.

•  Paratoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefyllfa gwahanol ieithoedd, gan gynnwys awgrymiadau ac argymhellion. 

•  Atgyfnerthu a chadarnhau arferion da trwy gydnabyddiaeth gyhoeddus: sefydlu gwobrau penodol a hyrwyddo sefyllfa lle y bydd sefydliadau eraill yn gwerthfawrogi arferion da wrth ymdrin ag amlieithrwydd ac yn ei ffafrio yn eu prosesau gwobrwyo eu hunain. 

•  Cynnig cymorth i baratoi defnyddiau addysgol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd; sef defnyddiau sy’n hyrwyddo parch tuag at amrywiaeth, gweinyddu amlieithrwydd a mabwysiadu arferion da.

•  Cytuno systemau ar gyfer cydweithrediad ymhlith sefydliadau cyhoeddus a dinesig o bob math a chymdeithasau gyda golwg ar roi arferion da ar waith.

Generalitat de Catalunya
Casa de les Llengües ©